Friday, October 22, 2010

The Gondolier in Welsh

This is one of the first translations of The Gondolier that was done. It was under submission for a long time. I never heard back and it was overlooked until now, although I have included it in the Celtic polyglot version. So here it is, The Gondolier in the language of my relatives.




Y Gondolïwr


Torodd trwyn du fy ngondola yn esmwyth trwy ddŵr llonydd y gamlas. Roedd y llong lefn wedi fy ngwasanaethu’n dda am lawer blwyddyn, yn cludo teithwyr trwy ddyfrffyrdd y ddinas, dan ofal cenedlaethau o’m cyndadau.
Roedd yr haul yn machlud dros yr hen ddinas, yn troi’r dŵr yn ruban inciog rhwng yr adeiladau tywodfaen. Cymerais anadl ddofn o awel oeraidd yr hwyrnos.
Oes yna harddach le na’r ddinas ryfeddol yma yn llawn camlesi? Wrth i’r bad orffwys i’w hangor, syllais lan yn fodlon i wybren dduog Mawrth.

Y Diwedd



Translated by Lili Fach

No comments: